Ogof Vanguard

Oddi ar Wicipedia
Vanguard Cave
Mathogof, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGorham's Cave complex Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.12°N 5.34°W Edit this on Wikidata
Map
Map yn dangos lleoliad yr ogof o fewn tiriogaeth Gibraltar.
LleoliadO dan y graig ar ochr ddwyreiniol Craig Gibraltar
Cyfesurynnau36°07′18″N 5°20′31″W / 36.121556°N 5.342022°W / 36.121556; -5.342022Cyfesurynnau: 36°07′18″N 5°20′31″W / 36.121556°N 5.342022°W / 36.121556; -5.342022
Dyfnder17 metre (56 ft)
Amrywiaeh
o ran hyd
35 metre (115 ft)
DaearegCalchfaen

Ogof glan y môr ydy Vanguard Cave sydd yn rhan o wëad o ogofâu a elwir yn Gorham's Cave Complex ac sydd wedi'i lleoli yn Gibraltar.

Mae'r gwëad yma o ogofâu wedi cael eu henwebu am statws Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO. Dyma un o droedleoedd olaf y Neanderthal a oedd yn byw yn yr ardal hon rhwng 55,000 a 28,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]

Mae wedi'i lleoli i'r de-ddwyrain o Graig Gibraltar.

Nodweddion ffisegol[golygu | golygu cod]

Prof. Clive Finlayson yn darlithio ar Gibraltarpedia gerllaw Ogof Vanguard.

Mae'r ogof yn un o bedwar sy'n rhan o blethera Gorham's Cave complex sydd wedi'u henwebu am statws Safle Treftadaeth y Byd, UNESCO. Y tri arall yw: Ogof Bennett's, Ogof Gorham, ac Ogof Hyaena.[1] Mae'n ogof sy'n 35 metre (115 ft) o uchder (mewnol) sy'n cynnwys 1.7 metre (5.6 ft) o waddodion. Chwythwyd y gwaddodion hyn i mewn drwy geg yr ogof dros gyfnod hir o amser ac maent yn gymysg gyda'r olion archaeolegol. Archwiliwyd yr olion hyn ac mae'r canlyniadau yn rhoi darlun eitha clir i ni o sut fywyd (a nodweddion daearyddol) oedd yma yn y gorffennol.[2] Cloddiwyd Vanguard yn gyntaf ym 1989, a cloddiwyd Ogof Gorham - a leolir ychydig fetrau gerllaw yn 1951.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "UK Tentative List of Potential Sites for World Heritage Nomination: Application form" (PDF). UK Government. Cyrchwyd 24 Awst 2012.
  2. "Gorham's Cave Complex". UNESCO. Cyrchwyd 27 Awst 2012.
  3. MacPhail, Richard I; et al (2000). Stringer et al, CB. ed. Geoarchaeological investigation of sediments from Gorham’s and Vanguard Caves, Gibraltar: Microstratigraphical (soil micromorphological and chemical) signatures. Oxbow. http://bu.academia.edu/PaulGoldberg/Papers/478396/Geoarchaeological_investigation_of_sediments_from_Gorhams_and_Vanguard_Caves_Gibraltar_Microstratigraphical_soil_micromorphological_and_chemical_signatures. Adalwyd 25 Awst 2012.