Oes yr Efydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Oes efydd)
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Rhaghanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Cyfnod sydd yn dilyn Oes y Cerrig mewn llawer o wledydd pan ddefnyddid y metel efydd oedd Oes yr Efydd a gamenwir yn ‘Yr Oes Efydd’ weithiau yn Gymraeg. Ar ôl Oes yr Efydd daeth Oes yr Haearn.

Mae efydd yn aloi o gopr. Arfau rhyfel ac offer ydyw'r rhan fwayf o olion y cyfnod hwn, ond mae nifer o arteffactau defodol wedi goroesi hefyd.

Oes yr Efydd ym Mhrydain[golygu | golygu cod]

Cleddyf efydd

Mae'n debyg y dechreuodd Oes yr Efydd tua 2200 CC a daeth i ben tua 700 CC. Yn ystod y cyfnod hwn daeth pobl newydd o gyfandir Ewrop i Brydain ac mewn canlyniad newidiodd diwylliant Prydain yn gymharol gyflym. Roedd yr hinsawdd yn gwaethygu ar yr un pryd â'r bobl yn y dyffrynnoedd yn magu anifeiliaid a gwelwyd twf yn yr economi. Ar yr un pryd cafodd llawer o goed eu cymynu.

Daeth llawer o dun Ewrop o Gernyw a llawer o gopr o Gymru, yn bennaf o Ben y Gogarth. Yn ne Lloegr datblygodd diwylliant cyfoethog iawn, y diwylliant Wessex a daeth strwythr cymdeithas yn fwy cymhleth.

Chwarel gopr Pen y Gogarth, ger Llandudno

Yn groes i'r arfer y Neolithig, gyffredin, cafodd pobl eu claddu'n unigol; cyn Oes yr Efydd roedd tuedd i'w claddu gyda'i gilydd. Gellir gweld olion o'r cyfnod hwn ym Moel Eithinen, un o Fryniau Clwyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]