Odo o Cheriton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Offeiriad a llenor yn yr iaith Ladin oedd Odo o Cheriton (m. 1247). Yn Sais o dras Normanaidd, mae Odo'n adnabyddus i edfrydwyr rhyddiaith Cymraeg Canol fel awdur Chwedlau Odo.

Ei fywyd[golygu]

Bu cryn ansicrwydd ynglŷn ag Odo a'i fywyd. Ymwelodd â Paris, ac yno yn ôl pob tebyg yr enillodd ei radd fel Meistr y Celfyddydau. Ceir traddodiad ei fod yn fynach Sistersiaidd neu'n perthyn i'r Præmonstratensiaid. Cyfeirir at un "Meistr Odo o Cheriton" yng nghofnodion Caint a Llundain, rhwng 1211 a 1247, yn fab i William o Cheriton, arglwydd maenor Delce yn Rochester. Yn 1211-12 daeth Odo i feddiant eglwys Cheriton, ger Folkestone; ceir cofnod o'i dad yn talu hebog i'r brenin John o Loegr i brynu'r bywoliaeth. Yn 1233 etifedodd Odo ystadau ei dad yn Delce, Cheriton, a mannau eraill. Ar siarter o 1235-6 (British Museum, Harl. Ch. 49 B 45), ynglŷn a hawl ar siop yn Llundain, ceir ei sêl, sy'n dangos mynach yn eistedd wrth ei fwrdd, gyda seren uwch ei ben (St. Odo o Cluny efallai). Bu farw yn 1247.

Gwaith llenyddol[golygu]

Ysgrifennodd Odo sawl gwaith Lladin ar bynciau eglwysig a diwinyddol, yn cynnwys pregethau. Ond ei brif gyfraniad i lenyddiaeth yw ei Parabole Sancti, sy'n perthyn i draddodiad y fabliaux Ffrengig a gwaith Esop. Cyfieithwyd y gwaith i'r Gymraeg tua diwedd y 14eg ganrif (neu gynt) dan y teitl Chwedlau Odo. Ceir cyfieithiadau o'r un cyfnod i'r Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg yn ogystal.

Ffynhonnell[golygu]

  • Ifor Williams (gol.), Chwedlau Odo (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926)[[Categori:Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol]]