Occupy Wall Street

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Protestwyr

Protest gwrth-gyfalafol yn Ninas Efrog Newydd ydy Occupy Wall Street. Sbardunwyd gan y cylchgrawn gwrth-gyfalafol Adbusters,[1] gan ddenu ysbrydoliaeth o brotestiadau tebyg y Los Indignados yn Sbaen[2] a'r Gwanwyn Arabaidd. Yn bennaf maent yn protestio yn erbyn anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol, bariaeth corfforaethau, grym cwmnïau a'u dylanwad dros y llywodraeth (yn enwedig y sector gwasanaethau ariannol) a lobïo. Arwyddair y mudiad yw We are the 99% ("Ni yw'r 99%") sy'n cyfeirio at yr anghydraddoldeb o ran incwm yn yr Unol Daleithiau: mae'r 1% cyfoethocaf yn rheoli tua 40% o gyfoeth y wlad.

Cychwynnodd y gwrthdystiad ar 17 Medi 2011 ac erbyn 9 Hydref bu protestiadau tebyg mewn 70 o ddinasoedd a thros 600 o gymunedau yn yr Unol Daleithiau. Mae protestiadau eraill gyda'r enw "Occupy" wedi eu cynnal mewn dros 900 o ddinasoedd ar draws y byd, er enghraifft Occupy London. Yng Nghymru cafwyd gwersyllfannau yng Nghaerdydd[3] ac Abertawe.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

Flag of New York City.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.