Oblast Novosibirsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Novosibirsk.
Lleoliad Oblast Novosibirsk yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Novosibirsk (Rwseg: Новосиби́рская о́бласть, Novosibirskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Novosibirsk. Poblogaeth: 2,665,911 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir Oblast Novosibirsk yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Siberia, yng ngorllewin Gwastadedd Siberia, yn nhroedfryniau mynyddoedd Salair, rhwng Afon Ob ac Afon Irtysh. Mae'r oblast yn ffinio gyda Oblast Omsk i'r gorllewin, Oblast Tomsk i'r gogledd, Oblast Kemerovo i'r dwyrain, ac Altai Krai gyda thalaith Pavlodar yn Kazakhstan i'r de.

Sefydlwyd Oblast Novosibirsk ar 28 Medi, 1937, yn rhan o'r Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol[golygu]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Coat of arms of Novosibirsk oblast.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Oblast Novosibirsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.