Oblast Kostroma

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Kostroma.
Lleoliad Oblast Kostroma yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kostroma (Rwseg: Костромска́я о́бласть, Kostromskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kostroma. Poblogaeth: 667,562 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Fe'i sefydlwyd ar Awst 13, 1944.

Mae Oblast Kostroma yn rhannu ffin gyda Oblast Vologda i'r gogledd, Oblast Kirov i'r dwyrain, Oblast Nizhny Novgorod i'r de, Oblast Ivanovo i'r gorllewin, ac Oblast Yaroslavl i'r gogledd-orllewin. Y prif afonydd yw Afon Volga ac Afon Kostroma. Gorchuddir rhan helaeth yr oblast gan goedwigoedd ac felly mae'n un o'r ardaloedd cynhyrchu pren mwyaf yn Ewrop.

Dolenni allanol[golygu]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.