Oaxaca de Juárez

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen eglwys yn Oaxaca de Juárez

Dinas yn ne Mecsico a phrifddinas talaith Oaxaca yw Oaxaca de Juárez. Cyfeirir ati yn aml fel Oaxaca (o'r Nahuatl Huaxyácac) yn unig. Hi yw dinas fwyaf y dalaith, gyda phoblogaeth o 258,008.

Sefydlwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Aztec Ahuízotl yn 1486. Cyrhaeddodd y Sbaenwr Francisco de Orozco i Oaxaca ar 25 Tachwedd 1521, wedi cwymp Tenochtitlan.

Dynodwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco.