Nouri al-Maliki

Oddi ar Wicipedia
Nouri al-Maliki
Ganwydنوري كامل المالكي‎ Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1950 Edit this on Wikidata
Hindiya Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIrac Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Baghdad
  • Prifysgol Salahaddin Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Irac, Minister of Interior of Iraq, Minister of Interior of Iraq, Minister of Defence Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolIslamic Dawa Party Edit this on Wikidata

Nouri Kamel Mohammed Hassan al-Maliki (Arabeg: نوري كامل المالكي, Nūrī Kāmil al-Mālikī; ganed c. 1950 yn Al Hindiyah, Irac), a adnabyddir hefyd fel Jawad al-Maliki, yw is-arlywydd a chyn-brif weinidog Irac. Mae'n Fwslim Shia, ac yn arweinydd y Blaid Dawa Islamaidd. Cymerodd Al-Maliki a'i lwydodraeth drosodd yn lle Llywodraeth Dros Dro Irac (arweinwyd gan Ibrahim al-Jaafari). Cafodd ei gabinet 37 aelod ei gadarnhau gan Cynulliad Cenedlaethol Irac ar 20 Mai, 2006.

Bydd mandad cyfansoddiadol Al-Maliki yn rhedeg hyd 2010. Ar 26 Ebrill, 2006, cyhoeddodd swyddfa al-Maliki y byddai o hynny ymlaen yn defnyddio'r enw cyntaf Nouri (neu Nuri, "Goleuni" yn Arabeg) yn lle ei hen lysenw Jawad.[1]

Rhagolygon ei lywodraeth[golygu | golygu cod]

Mae sefydlogrwydd ac effeithiolrwydd llywodraeth al-Maliki yn dibynnu i gryn raddau ar yr heddwch bregus rhwng Moqtada al-Sadr, sy'n rheoli un o'r blociau mwyaf yn y senedd, ac Abdul Aziz al-Hakim, arweinydd Cynghrair Unedig Irac a'r grwp Shia grymus, Cyngor Uchaf y Chwyldro Islamaidd yn Irac. Mae cefndir o ymrafael teuluol rhwng y ddau ddyn a'u teuluoedd sydd wedi arwain at wrthdaro ar y stryd rhwng eu milisias o bryd i'w gilydd.[2]

Mae ansicrwydd ynglŷn â pharodrwydd a gallu al-Maliki i reoli'r milisias Shia. Yn Hydref 2006, beirniadodd cyrch gan yr Americanwyr yn erbyn arweinydd milisia am iddo gael ei wneud heb ei ganiatâd a'i fendith.[3]

Ar 2 Ionawr, 2007, mewn cyfweliad i'r Wall Street Journal dywedodd al-Maliki nad oedd eisiau'r swydd yn y lle cyntaf a'i fod wedi'i derbyn allan o synnwyr dyletswydd yn unig. Ychwanegodd y buasai;n dda ganddo orffen ei dymor fel prif weinidog cyn iddo ddod i ben yn 2009.[4]

Mae bloc aelodau seneddol Moqtada al-Sadr wedi cyhoeddi (15 Ebrill, 2007) eu bod yn tynnu allan o gabinet al-Maliki am nad yw'n barod i osod amserlen ar gyfer tynnu'r milwyr estron allan o Irac."[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1][dolen marw] Chicago Tribune, Ebrill 27, 2006
  2. [2] "Attack on Iraqi City Shows Militia’s Power", The New York Times, 20 Hydref 2006
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-12. Cyrchwyd 2007-04-17.
  4. [3]
  5. [4] Reuters, 15.04.07
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: