Noson Guto Ffowc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Noson Tân Gwyllt

Dethlir Noson Guto Ffowc neu Noson Tân Gwyllt ledled Prydain ar y 5 Tachwedd bob blwyddyn. Ar y dyddiad hwn yn 1605 y ceisiodd cynllwynwyr Catholig, gan gynnwys Guto Ffowc, ddinistrio Palas San Steffan â ffrwydron. Roedd Guto'n aelod o grŵp a'u bwriad ar ladd y Brenin Iago'r 1af, ond methodd eu hymdrech pan daliwyd Guto tra roedd yn gwarchod y powdwr gwn yn seleri Tŷ'r Arglwyddi. Er mwyn dathlu'r ffaith fod y brenin yn dal i fyw taniwyd coelcerthi ledled Llundain, yn unol â thraddodiad yr oes.

Model o Guto, allan o hen ddillad yn llosgi ar goelcerth yn Billericay, Swydd Essex yn 2010.

Mae'r arferiad o wneud "Gei", sef model o Guto Ffowc ei hun yn tarddu'n ôl i ddiwedd y 18fed ganrif pan oedd plant tlawd yn gwneud arian poced drwy ddilorni'r model (pabyddol) hwn, ac o dipyn i beth daeth y 5ed o Dachwedd yn ganolbwynt i'r gweithgaredd. Collwyd yr arferion a'r casineb gwrth-babyddol erbyn cychwyn y 20fed ganrif a thrôdd y weithgaredd yn un cymdeithasol.

Ceir cofnodion o 1607 o goelcerthi cyhoeddus yn cael eu cynnau yn Nghaerliwelydd, Norwich a Nottingham, gyda cherddoriaeth y ffrwydro cannons yn rhan o'r dathliadau. Yn Dorchester, a oedd yn dref Protestanaidd, darllenwyd pregeth, cynheuwyd coelcerthi a chanwyd y clychau.[1]

Codir coelcerthi a llosgir tân gwyllt gyda'r nos drwy wledydd Prydain, yn al mewn gerddi tai preifat neu mewn safleoedd cyhoeddus. Mae mwy a mwy o bobl eisiau cyfyngu'r arfer hwn, gan fod nifer yn cael eu hanafu. Bydd plant a bobl ifainc yn aml yn camddefnyddio'r tân gwyllt a'u taflu at bobl a hyd yn oed yn eu gwthio drwy flwch llythyron tai.

Y tu hwnt i wledydd Prydain[golygu]

Lledaenodd noson Guto Ffowc i diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd America ble'i gelwid yn "Ddiwrnod y Pâb" ond ni pharhaodd y traddodiad yno'n hir.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sharpe, J. A. (2005), Remember, remember: a cultural history of Guy Fawkes Day; tudalen 87; cyhoeddwyd yn Llundain gan Harvard University Press, ISBN 0-674-01935-0
Fireworks 2.png Eginyn erthygl sydd uchod am ŵyl neu ddathliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.