North Wales, Pennsylvania

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Pennsylvania yn UDA
Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).

Mae North Wales yn fwrdeistref yn Swydd Montgomery, Pennsylvania, Unol Daleithiau America. Erbyn heddiw mae'n un o faerdrefi allanol Philadelphia, Pennsylvania, ac yn un o dair tref hanesyddol yn Nyffryn Gogledd Penn. Ei phoblogaeth oedd 3,342 yn nghyfrifiad 2000.

Cafodd y dref ei henwi'n North Wales gan ei sefydlwyr am fod nifer mawr ohonynt yn ymfudwyr o ogledd Cymru (gweler hefyd Tract Cymreig). Dechreuodd fel pentref bychan yng nghefn gwlad amaethyddol Gwynedd Township.

Newidiwyd ei natur wledig gyda adeiladu Rheilffordd Gogledd Pennsylvania, a ddechreuwyd yn 1852. Dechreuodd gwasaneth o Fethlehem i Philadelphia trwy North Wales ar y rheilffordd honno yn 1857. Tyfodd y dref yn gyflym o gwmpas yr orsaf reilffordd. Cafodd North Wales ei wneud yn fwrdeistref yn 1869, gan ychwanegu tir o Upper Gwynedd Township.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]