Norman Berdichevsky

Oddi ar Wicipedia

Awdur, darlithydd a chyfieithydd Iddewig Americanaidd yw Dr Norman Berdichevsky sy'n arbenigo mewn pynciau sy'n ymwneud ag iaith a hunaniaeth gwrth Gomiwnyddol. Mae'n erbyn Mwslemiaeth radical a'r hyn a welai fel agwedd llwfr nifer o ddeallusion yn y Gorllewin tuag at fygythiad Mwslemiaeth uniongred. Ysgrifenna o gyfeiriad asgell dde seciwlar. Mae'n frodor o Efrog Newydd ond bellach yn byw yn Orlando, Florida.

Mae'n rhugl yn y Saesneg, Sbaeneg, Hebraeg a Daneg ac wedi darlithio, cyhoeddi a chyfieithu yn yr ieithoedd hynny. Fel Iddew mae ganddo ddiddordeb arbennig yn Israel ac yn nefnydd a dyfodol yr iaith Hebraeg.

Academia[golygu | golygu cod]

Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Wisconsin-Madison ym 1974 a bu'n gyn-ddarlithydd mewn Astudiaethau Iddewig ym Mhrifysgol Canolbarth Florida. Dros y blynyddoedd darlithodd mewn prifysgolion yn Unol Daleithiau America, Denmarc, Israel a Phrydain.

Athroniaeth Asgell Dde[golygu | golygu cod]

Drwy gydol ei yrfa mae Berdichevsky wedi ysgrifennu a siarad o gyfeiriad yr asgell dde. Cyhoeddodd lyfr, 'The Left is Seldom Right' a cheir cyfweliad ag ef am ei ddaliadau mewn sawl man gan gynnwys gyda David Toy ar Youtube[dolen marw] lle mae'n rhoi ei ddadansoddiad o fethiannau nifer o agweddau deallusion y Chwith.

Mae'n un o brif gyfrannwyr i wefan lenyddol a materion cyfoes asgell dde, y 'New English Review' gydag ysgrifenwyr adnabyddus eraill fel Theodore Darlymple.

Israel[golygu | golygu cod]

Mae Berdichevsky yn lladmerydd cyson dros wladwriaeth Israel gan ysgrifennu dros hawl y wlad i ymosod ac amddiffyn ei hun yn erbyn Arabiaid ac yn erbyn Mwslemiaeth eithafol. Serch hynny, mae'n amheus o agwedd y gymuned Haredim Iddewig grefyddol uniongred nad sy'n coleddu'r iaith Hebraeg nac yn gwasanaethu ym myddin y wlad.

Hebraeg[golygu | golygu cod]

Mae wedi ysgrifennu ar y gwahaniaeth sy'n datblygu rhwng Iddewon yn Israel ac Iddewon yn y Diaspora, gweler ei erthygl 'Zohar Argov and the Hebrew Language Gap' ar wefan y New English Review. Yn ei lyfr 'Modern Hebrew: The Past and Future of a Revitalized Language[dolen marw]' (McFarland, 2014) mae'n dadlau dros gynyddu addysg yn yr iaith Hebraeg yn y Diaspora er mwyn cau'r bwlch yno. Noda fod diffyg rhuglder, neu hyd yn oed ymwybyddiaeth Iddewon America o ddiwylliant byw Hebraeg Israel yn arwain ac yn gwanhau'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bryder i'r Iddewon yn Israel ac yn golygu na ydynt chwaith yn gallu rhannu llwyddiant diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y wlad.

Mae'n dadlau yn y llyfr hefyd dros greu 'Gweriniaeth Hebraeg' yn Israel, sef gweriniaeth ddinesig sydd wedi ei seilio ar diriogaeth ac iaith ac nid yn unig ar hunaniaeth ethnig a chrefyddol Iddewig. Mae'n dadlau ar dudalen 164 o'r llyfr dros 'gadw'r faner ond newid yr anthem'. Byddai hyn, meddai, yn ffordd o gymathu a chydnabod yr 20% o boblogaeth Israel sy'n Arabiaid.

Yn hyn o beth mae'n dilyn peth o athroniaeth Canaaneiaid yr 20g megis Uri Avnery a ddadleuai dros greu gweriniaeth gymanwladol oedd wedi ei seilio ar realiti gymuned Hebraeg ei hiaith nid ar hunaniaeth Grefyddol Iddewiaeth. Yn ôl yr athroniaeth hon byddai'r weriniaeth gymanwladol yn agored i Semitiaid eraill nad oedd yn wreiddiol yn Arabiaid.

Denmarc[golygu | golygu cod]

Mae Berdichevsky yn rhugl yn y Daneg ac wedi cyhoeddi llyfr, 'An Introduction to Danish Culture' (2011). Mae hefyd wedi ysgrifennu ar anghydfod y ffin rhwng Denmarc a'r Almaen ac am agweddau ar Iddewiaeth, Mwslemiaeth a hunaniaeth crefydd ac iaith yn y wlad.

Llyfryddiaeth Ddethol[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]