Non Stanford

Oddi ar Wicipedia
Non Stanford
Ganwyd8 Ionawr 1989 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Man preswylLeeds Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethtriathlete Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Triathletwraig proffesiynol Cymreig yw Non Stanford (ganed 8 Ionawr 1989), a Phencampwraig Triathlon y Byd ITU 2013.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed yn Abertawe, a magwyd yng ngorllewin Cymru. Ei chlwb athletau cyntaf oedd y Swansea Harriers.

Roedd Stanford yn rhedwraig traws gwlad lwyddiannus cyn cychwyn astudio gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer corff ym Mhrifysgol Birmingham. Yn ystod yr haf yn 2008, dechreuodd hyfforddi wrth nofio oherwydd anaf, ac yn dilyn hynny ymunodd â chlwb triathlon y brifysgol.

Daeth yn ail yn y British Triathlon Super Series yn 2009, ac enillodd Ysgoloriaeth Triathlon Paul Weston ar gyfer 2009/10 er mwyn iddi allu canolbwyntio ar y triathlon.[2] Wedi iddi raddio yn 2010, enillodd fedal efydd yn y Premium European Cup yn Brasschaat, a chystadlu yn y gystadleuaeth o fri y French Club Championship Series y Lyonnaise des Eaux gan gynrychioli Montpellier Agglo Tri.

Symudodd i Brifysgol Fetropolaidd Leeds, lleoliad pencadlys British Triathlon, ac mae'n hyfforddi gydag Alistair a Jonathan Brownlee. Yn 2012, enillodd Stanford Bencampwriaethau Triathlon y Byd ITU dan 23 yn Auckland, Seland Newydd. Yn 2013, Stanford oedd y ferch gyntaf erioed i ddilyn ei llwyddiant yn y Bencampwriaeth dan 23 gyda theitl Pencampwraig y Byd hŷn, pan enillodd y ras yn Hyde Park, Llundain.

Ar ôl ennill medal arian i Gymru yn y ras gyfnewid triathlon yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, aeth ymlaen i ennill Pencampwriaethau Triathlon Ewrop, a chyhoeddi ei hymddeoliad.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Britain's Non Stanford wins ITU World Triathlon. bbc.co.uk (14 Medi 2013). Adalwyd ar 14 Medi 2013.
  2.  Non Stanford. runnerslife.co.uk. Adalwyd ar 28 Awst 2010.
  3. Kate Milsom (13 Awst 2022). "Non Stanford wins Munich European Championships and announces retirement". Triathlon (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Awst 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: