Nome, Alaska
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Alaska, Unol Daleithiau America yw Nome. Yn ôl cyfrifiad 2010, poblogaeth y ddinas oedd 3,598.
Tarddiad yr enw [golygu]
Ceir cryn ddadlau am darddiad yr enw "Nome". Mae'n bosib mai sylfaenydd y ddinas a roddodd yr enw iddi, sef Jafet Lindeberg, gan fod dyffryn o'r un enw o fewn tafliad carreg i'w gartref yn Norwy, ble treuliodd ei blentyndod.
Dywed eraill mai camgymeriad oedd yr enw. Dywedir fod morwr o wledydd Prydain wedi ysgrifennu "? Name" ar ei fap, ger pentir dienw, a bod y cartograffydd wedi ei gopio'n anghywir fel "Cape Nome". [1]