Nolwenn Leroy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nolwenn yn 2010.

Cantores Lydaweg yw Nolwenn Leroy (ganwyd Medi 28 1982 ym Mhen-ar-Bed). Mae’n adnabyddus am ei dau sengl rhif un, Cassé a Nolwenn Ohwo!.

Bywgraffiad[golygu]

Yn ystod ei phlentyndod treuliodd ei theulu amser yn byw ym Mharis, Lille a Gwengamp. Ar ôl i’w rhieni ysgaru ym 1992 ymgartrefodd Nolwenn gyda’i mam a’i chwair yn Saint-Yorre.

Astudiodd yn College des Celestins yn Vichy. Pan oedd hi’n unarddeg mlwydd oed, sylwodd ei hathro cerddoriaeth ar ei doniau cerddorol ac fe anogodd iddi ddysgu’r ffidil. Ym mis Gorffennaf 1998 fe enillodd ysgoloriaeth i deithio i Cincinnati yn Ohio fel myfyrwraig gyfnewid. Wedi dysgu siarad Saesneg yn rhugl, dychwelodd i Ffrainc ble fynychodd ddosbarthiadau canu clasurol. Yn 2002 daeth Nolwenn yn adnabyddus wedi iddi ennill ail-gyfres y rhaglen deledu Ffrengig Star Academy.

Mae wedi rhyddhau pedwar albwm gan gynnwys dau albwm rhif un; Nolwenn (2003) a Bretonne (2010). Albwm o ganeuon Celtaidd yw Bretonne sy’n cynnwys pedair cân yn Llydaweg a dreuliodd 7 wythnos ar brig y siartiau Ffrengig.

Disgograffiaeth[golygu]

Albymau[golygu]

Blwyddyn Teitl Safle ar y siart
FR BEL SWI
2003 Nolwenn 1 1 2
2005 Histoires Naturelles 3 7 44
2009 Le Cheshire Cat et Moi 26 32 -
2010 Bretonne 1 1 20

Senglau[golygu]

Blwyddyn Teitl Safle ar y siart Albwm
FR BEL SWI
2003 "Cassé" 1 1 4 Nolwenn
"Une Femme Cachée" 40 23 78
"Suivre Une Etoile" 12 24 44
2004 "Inévitablement" 31 26 -
2006 "Nolwenn Ohwo!" 1 3 29 Histoires Naturelles
"Histoire Naturelle" 30 39 -
"Mon Ange" 14* 6* -
2007 "J'aimais Tant L'Aimer" - - -
"Reste Encore" - - -
2009 "Faut-il, Faut-il Pas ?" - 6* - Le Cheshire Cat et Moi
2010 "Suite Sudarmoricaine" - 26* - Bretonne
"La Jument de Michao" 34* 13 -
"Tri Martolod" 48* 29 -
"Brest" - - -

Dolenni allanol[golygu]

Ei gwefan swyddogol