Noel Harrison

Oddi ar Wicipedia
Noel Harrison
GanwydNoel John Christopher Harrison Edit this on Wikidata
29 Ionawr 1934 Edit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 2013, 20 Hydref 2013 Edit this on Wikidata
Ashburton, Dyfnaint Edit this on Wikidata
Label recordioLondon Records, Decca Records, Reprise Records, Philips Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Radley
  • Sunningdale School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, cerddor, Sgïwr Alpaidd, actor ffilm, artist recordio Edit this on Wikidata
TadRex Harrison Edit this on Wikidata
MamMarjorie Thomas Edit this on Wikidata
PriodSara Lee Eberts, Margaret Meadows, Lori Chapman Edit this on Wikidata
PlantCathryn Harrison, Chloe Harrison, Will Harrison, Simon Harrison, Harriet Harrison Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Canwr, actor a sgïwr Seisnig oedd Noel John Christopher Harrison[1] (29 Ionawr 193419 Hydref 2013).[2]

Ganwyd yn Llundain yn fab i'r actor Rex Harrison. Roedd Noel yn bencampwr slalom fawr Prydain ym 1953 a chystadleuodd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ym 1952 a 1956. Symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1965 a chafodd ei lwyddiant cyntaf gyda'r gân "A Young Girl". Cyd-serenodd gyda Stefanie Powers yn The Girl from U.N.C.L.E. (1966–7), cyfres deledu ysbïo oedd yn spin-off i The Man from U.N.C.L.E..[3]

Ei gân enwocaf yw "The Windmills of Your Mind", oedd yn rhan o drac sain y ffilm The Thomas Crown Affair (1968). Enillodd y gân, a gyfansoddwyd gan Michel Legrand gyda geiriau gan Alan a Marilyn Bergman, y Gân Wreiddiol Orau yn 41ain seremoni Gwobrau'r Academi. ("Talk to the Animals", a ganwyd gan ei dad Rex yn Doctor Dolittle, oedd enillydd y flwyddyn gynt.) Cyrhaeddodd "The Windmills of Your Mind" safle Rhif 8 yn siartiau'r Deyrnas Unedig ym 1969.[3]

Symudodd i fferm yn Nova Scotia ar ddechrau'r 1970au gan geisio byw'n hunangynhaliol,[4] ac yno yng Nghanada cyflwynodd rhaglen gerdd o'r enw Take Time ar gyfer yr CBC.[1] Yn y 1980au dychwelodd i'r byd adloniant gan deithio ar draws yr Unol Daleithiau yn perfformio'i sioe un dyn Adieu Jacques, am fywyd Jacques Brel. Dychwelodd Noel i Loegr yn 2003 ac ymgartrefodd yn Ashburton, Dyfnaint.[3] Bu farw yn 2013 o drawiad ar y galon.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Slotnik, Daniel E. (23 Hydref 2013). Noel Harrison, Who Sang ‘The Windmills of Your Mind,’ Dies at 79. The New York Times. Adalwyd ar 25 Hydref 2013.
  2. (Saesneg) Sweeting, Adam (22 Hydref 2013). Noel Harrison obituary. The Guardian. Adalwyd ar 25 Hydref 2013.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Williamson, Marcus (23 Hydref 2013). Noel Harrison: Actor and singer best known for 'The Windmills of your Mind'. The Independent. Adalwyd ar 25 Hydref 2013.
  4. (Saesneg) Obituary: Noel Harrison. The Daily Telegraph (22 Hydref 2013). Adalwyd ar 25 Hydref 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: