Nissan

Oddi ar Wicipedia
Nissan
Math
cwmni cyhoeddus
Math o fusnes
kabushiki gaisha (math o gwmni)
Aelod o'r canlynol
Wi-Fi Alliance
ISINJP3672400003
DiwydiantDiwydiant ceir
Sefydlwyd26 Rhagfyr 1933
SefydlyddYoshisuke Aikawa, Den Kenjirō, William R. Gorham
Aelod o'r canlynolWi-Fi Alliance
PencadlysYokohama
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchlori
Refeniw11,951,169,000,000 Yen (2018)
Incwm gweithredol
574,760,000,000 Yen (2018)
Cyfanswm yr asedau18,746,901,000,000 Yen (31 Mawrth 2018)
PerchnogionRenault (0.434)
Nifer a gyflogir
136,134 (2020)
Rhiant-gwmni
Renault
Is gwmni/au
Jatco
Lle ffurfioYokohama
Gwefanhttp://www.nissan-global.com/ Edit this on Wikidata

Cwmni rhyngwladol sy'n arbenigo mewn gwneud ceir ydy Nissan Motor Corporation (日産自動車株式会社 Nissan Jidōsha Kabushiki-gaisha), a dalfyrir fel arfer i Nissan (/ˈnsɑːn/ neu Saesneg Prydain: /ˈnɪsæn/; Japanese: [nisːaɴ]), sydd a'i bencadlys yn Nishi-ku, Yokohama, Japan.

Ers 1999, mae Nissan wedi bod yn bartner o fewn y Renault–Nissan Alliance, ar y cyd gyda'r cwmni Renault o Ffrainc. Yn 2013 roedd gan Renault 43.4% o'r cyfranddaliadau / bleidlais ac roedd gan Nissan 15% o hawliau dibleidlais yn Renault. Carlos Ghosn yw Prif Weithredwr y ddau gwmni.

Mae Nissan Motor Corporation yn gwerthu ceir o dan yr enwau Nissan, Infiniti, Datsun, a NISMO.

Nissan Altima, 2013

Yn 2013 Nissan oedd y chweched gwneuthurwr ceir mwya'n y byd, ar ôl Toyota, General Motors, Volkswagen Group, Hyundai Motor Group, a Ford.[1] Gyda Renault, y gynghrair Renault–Nissan ydy'r pedwerydd mwyaf. Nissan yw'r cwmni ceir mwyaf yn tsieina, Rwsia a Mecsico.[2]

Yn 2020, Nissan oedd gwneuthurwr cerbydau trydan (EV) mwyaf y byd, gyda gwerthiant byd-eang o fwy na 320,000 o gerbydau trydan cyfan ym mis Ebrill 2018. Nissan, hefyd sy'n gyfrifol am wneud y car trydan Nissan Leaf a lawnsiwyd yn 2000, sef y car trydan a oedd wedi gwerthu mwyaf hyd at 2014.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlu Datsun yn 1914[golygu | golygu cod]

Nissan Model 70 Phaeton, 1938
Pencadlys Nissan yn Nishi-ku, Yokohama

Sefydlodd Masujiro Hashimoto y Kwaishinsha Motor Car Works - yn 1911. Yn 1914, cynhyrchwyd y car cyntaf gan y cwmni, a galwyd ef yn DAT.

Acxronym oedd yr enw o enwau tri teulu a oedd wedi buddsoddi yn y cwmni:

  • Kenjiro Den (田 健次郎 Den Kenjirō)
  • Rokuro Aoyama (青山 禄郎 Aoyama Rokurō)
  • Meitaro Takeuchi (竹内 明太郎 Takeuchi Meitarō)

Ail-fedyddiwyd y car yn Kwaishinsha Motorcar Co., Ltd. yn 1918, ac eilwaith yn 1925 i DAT Jidosha & Co., Ltd. (DAT Motorcar Co.).

Ceir trydan Nissan[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd car trydan cyntaf Nissan yn 1947; yn 2020 roedd y cwmni'n dathlu 20 mlynedd o lwyddiant y Nissan LEAF. Eu car diweddaraf, a ymddangosodd yn 2021 yw'r Nissan Ariya, sy'n 87kWh ac yn medru teithio 320 milltir ar un llond batri.

  • 1947 - y Tama: 21 milltir; car dwy sedd; pellter o 40 milltir
  • 1970 - 315X: brecio atgynhyrchiol (taro'r brec yn cynhyrchu trydan - mae'r dechnoleg yma'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw)
  • 1983 - Mawrth EV: y car cyntaf i ddefnyddiwyd modur anwythiad (induction motor) i'w yrru
  • 1995 - FEV II: talfyriad o 'Future Electric Vehicles' a'r car Nissan cyntaf i ddefnyddio batri lithiwm-ion
  • 2005 - NUVU: car bychan, a rhagflas o'r Nissan LEAF; 77 milltir ar un gwefriad
  • 2010 - Nissan LEAF: car cyntaf Nissan i ddibynnu'n gyfangwbwl ar drydan, gyda phellter o 109 milltir (ffigwr gan NEDC)
  • 2020 - Nissan LEAF E+: 239 milltir (WLTP); 90 munud i wefru hyd at 80% o'r batri; > 340 trorym (torque)
  • 2021 - Nissan Ariya; 310 milltir; gyrriant 4 olwyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "World Motor Vehicle Production – OICA correspondents survey – World Ranking of Manufacturers – Year 2012" (PDF). OICA. 2013. Cyrchwyd 15 Medi 2013.
  2. "Message from CEO". Nissan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-23. Cyrchwyd 29 Ionawr 2014.