Nisien

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad chwedlonol yw Nisien (Cymraeg Canol: Nyssyen) yn yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl Branwen ferch Llŷr. Mae Nisien yn fab i Penarddun ac Euroswydd ac felly'n frawd gefaill i Efnysien. Yn ogystal, mae'n hanner brawd i Fendigeidfran a'i chwaer Branwen a Manawydan.

Yn y chwedl mae Nisien yn gymeriad mwyn a goddefgar mewn cyferbyniaeth lwyr i'w efaill Efnysien, sy'n gymeriad aflonydd a dinistriol sy'n cynhyrfu'r dyfroedd ar bob achlysur. Does gan Nisien fawr o ddim rhan yn y chwedl ac mae'n bosibl ei fod yno er mwyn y gyferbyniaeth ag Efnysien yn unig.

Does dim cyfeiriadau arall ato yn y traddodiad Cymraeg ond ceir sant lleol o'r enw Is[i]an/Isien/Nisien, nawddsant Llanisien ym Morgannwg.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad ers hynny), tud. 163.