Nigel Walker

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Chwaraewr rygbi ac athletwr croenddu o Gymro yw Nigel Walker (ganwyd 15 Mehefin 1963). Yng Ngemau Oplympaidd Los Angeles yn 1984 cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn y ras glwydi 110 medr. Pan yn 18 oed rhoddodd y gorau i chwarae rygbi am na chafodd ei ddewis i chwarae dros dîm ieuenctid Cymru, oherwydd lliw ei groen fel y tybiai rhai. Ar ôl gorffen ei yrfa fel athletwr aeth yn ôl i chwarae rygbi. Chwaraeodd dros Gymru 17 gwaith gan sgorio 12 cais.

Apwyntiwyd ef yn bennaeth chwaraeon BBC Cymru yn 2001.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.