Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen
English Llyfrgell Rhanbarth a Phrifysgol Göttingen State
SUB logo.GIF
SUB Goettingen Forschungsbibliothek6.JPG
Y Llyfrgell Ymchwil
Gwlad Yr Almaen
Math Llyfrgell academaidd, Llyfrgell gyhoeddus, ranbarthol
Sefydlwyd 1734
Lleoliad Göttingen
Collection
Casgliadau 7.7 miliwn
Other information
Cyfarwyddwr Wolfram Horstmann
Gwefan www.sub.uni-goettingen.de www.sub.uni-goettingen.de

Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen (byr: SUB Göttingen) yw llyfrgell Prifysgol Göttingen (Göttingen Georg-August-Universität) yn Göttingen, yr Almaen yn ogystal a bod yn llyfrgell ganol y rhanbarth Niedersachsen (Lower Saxony). Rhan o'r llyfrgell yw'r adran ddigideiddio Göttinger Digitalisierungszentrum yn ogystal â'r wefan wyddonol vascoda. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd. Rhwng muriau'r llyfrgell hon y cedwir Beibl Gutenberg, un o bedwar yn unig drwy'r byd.

Mae'n un o lyfrgelloedd mwya'r Almaen hefyd, gyda 4½ miliwn o gfrolau, 13,000 holograff a 350 Nachlässe (iaid llenyddol sy'n delio gyda materion hawlfraint ac eiddo deallusol). Mae'r llyfrgell yn casglu deunydd print, ffotograffau, mapiau, lluniau, llawysgrifau, CD-ROMau ac archifau. Hefyd eitemau ym mhob iaith a fformat; llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronnau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, basau data, mapiau,argraffiadau a darluniau. Catalogir popeth yn electronig, a dim ond arlein y caniateir mynediad i rai o'r casgliadau.

Hanes[golygu]

Ystyrir y llyfrgell fel y llyfrgell academaidd gyntaf ac fe'i codwyd yn 1734, teirblwydd cyn codi'r brifysgol. Y Cyfaryddwr cyntaf oedd Johann Matthias Gesner, ac ymhlith ei Phrif Lyfrgellwyr enwog y mae'r brodyr Jacob a Wilhelm Grimm, (sef y Brodyr Grimm) 1830-1837.

Ers y 1920au, derbyniodd y llyfrgell, gasgliadau arbennig niferus, yn enwedig y casgliad Eingl-Americanaidd a'r gwyddorau naturiol.

Adeilad y Llyfrgell yn y 18fed Ganrif
Yr adeiladau a godwyd rhwng 1878-1882
Neuadd Fawr y Llyfrgell, darlun pen ac inc gan Friedrich Besemann (1796–1854)

Yn 2002 enillodd y SUB wobr "Llyfrgell Almaenig y Flwyddyn" sef y (Bibliothek des Jahres).

Heddiw[golygu]

Ceir stoc o tua 4.5 miliwn o gyfrolau heddiw. Mae'r llyfrgell ar agor saith diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir gweld nifer o gasgliadau diddorol y llyfrgell ar eu gwefan. Cyhoeddwyd llawer o ddeunyddiau ar y we ac mae SUB yn gwneud llawer o ymchwil mewn Dyniaethau Digidol.

Adeilad newydd y SUB yn Göttingen ers 1992
Y Llyfrgell yn y nos

Adranau y Llyfrgell[golygu]

  • Llyfrgell Cemeg (BBN)
  • Llyfrgell Coedwigaeth Rhanbarthol (BBF)
  • Llyfrgell Ardal Meddygol ("BBM")
  • Llyfrgell yr adran Ffiseg (BBP)
  • Llyfrgell y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol (BBWISO, yn yr Oeconomicum)

Casgliadau yn yr adeilad hanesyddol[golygu]

  • Adran Llawysgrifau a Llyfrau Prin
  • Adran Llawysgrifau a Llyfrau Prin
  • Casgliad o Argraffwyd Almaeneg 1701-1800
  • Gweithdy Adfer
  • Rhwymo Llyfrau
  • Ystafell Ddarllen Heyne
  • Casgliad Mapiau
  • Llyfrgell Asia-Affrica

Catalogau a Gwasanaethau Canolog[golygu]

Mae SUB hefyd lyfrgell yr Akademie der Wissenschaften (Academi y Gwyddorau yn Göttingen). Mae'n cynnal y Niedersächsischen Zentralkatalog (catalog canolog Sacsoni Isaf) a Göttinger Digitalisierungszentrum (Canolfan Göttingen Digido). Mae SUB yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein, fel y Llyfrgell Rithwir o Eingl-Americanaidd gofod diwylliannol, ac mae'n datblygu cynigion newydd trwy'r amser.

Prif lyfrgellwyr[golygu]

Llenyddiaeth[golygu]

  • Margo Bargheer, Klaus Ceynowa (Hrsg.): Tradition und Zukunft - die Niedersächsische Staats und Universitätsbibliothek Göttingen. Eine Leistungsbilanz zum 65. Geburtstag von Elmar Mittler. Universitätsverlag, Göttingen 2005, ISBN 3-938616-03-2 (Volltext, PDF)
  • Bernhard Fabian (Hrsg.): Handbuch der historischen Buchbestände in Deutschland. Bd. 2, 1. Olms-Weidmann, Hildesheim 1998, ISBN 3-487-09575-0, S. 140–266
  • Elmar Mittler: Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen. In: Bernd Hagenau (Hrsg.): Regionalbibliotheken in Deutschland. Klostermann, Frankfurt am Main 2000. S. 187 - 195, ISBN 3-465-03085-0

Dolenni allanol[golygu]

Caslgiad Celtaidd, gweler [http://www.sub.uni-goettingen.de/ebene_1/1_sondersamm.html.de Wales related Fiction of the Romantic Period, gweler http://www.nationallizenzen.de/angebote/nlproduct.2006-03-14.4579123427 Arddangosfa Panorama Wales, gweler http://www.sub.uni-goettingen.de/archiv/ausstell/2008/wales.html Am Gymru (OPAC): http://opac.sub.uni-goettingen.de/DB=1/LNG=DU/CMD?ACT=SRCHA&IKT=1016&SRT=YOP&TRM=Cymru Gweler yma: [1] (Metadata). Sacsoni Isaf ar-lein: http://www.opal-niedersachsen.de/ CACAO, PARSE.Insight, TextGrid, WisNetGrid, WissGrid (http://www.wisnetgrid.org/) http://www.europeanatravel.eu/ http://www.dariah.eu/ Blumenbach ar-lein: http://www.blumenbach-online.de/projekt/?L=1 Llyfrgelloedd rhithwir // Rhestr Cronfeydd Data: http://www.sub.uni-goettingen.de/vlib/lit/nl_mehr.php