Nicolaus Copernicus
Oddi ar Wicipedia
Darlun o Nicolaus Copernicus o Toruń, ei dref enedigol
Seryddwr o Bwyliad oedd Nicolaus Copernicus (1473 - 1543). Yn ei lyfr dylanwadol De Revolutionibus Orbium Coelestium ("Ynglŷn â chylchdroadau sfferau'r nef") rhoddodd y ddamcaniaeth ymlaen fod y Ddaear yn cylchdroi o amgylch yr Haul, yn hytrach na bod yr Haul yn cylchdroi o amgylch y Ddaear. Roedd yn ddamcaniaeth chwyldroadol a dadleuol iawn yn ei amser am ei bod yn mynd yn erbyn dysgeidiaeth awdurdedig yr Eglwys Gatholig, ond gosododd sylfeini seryddiaeth fodern. Enwyd crater ar y lleuad ar ôl iddo.