Nick Griffin
Mae Nicholas John Griffin (ganwyd 1959) yn wleidydd Seisnig asgell dde eithafol. Mae wedi bod yn gadeirydd y British National Party (BNP) (Plaid Genedlaethol Prydain) er 1999.
Cynnwys |
Dyddiau Cynnar ac Addysg [golygu]
Ganwyd Nick Griffin yng ngogledd Llundain, Lloegr a thyfodd i fyny yn Halesworth yn swydd Suffolk. Addysgwyd ef mewn dwy ysgol gyhoeddus yn Suffolk i ddechrau, St Felix School (Southwold) a Woodbridge School; astudiodd Griffin hanes, ac yna'r gyfraith yng Ngholeg Downing, Caergrawnt. Bu Griffin yn paffio tra yng Nghaergrawnt a daeth yn las paffio.[angen ffynhonnell] Graddiodd gyda gradd ail ddosbarth isaf mewn hanes a'r gyfraith (Tripos I Hanes dwy flynedd/ Tripos II Cyfraith un blwyddyn).[angen ffynhonnell] Ers gadael y brifysgol, mae Griffin wedi gweithio ym meysydd peirianeg amaethyddiaeth, adfer tai, a choedwigaeth.[angen ffynhonnell] Yn ddiweddar, mae wedi bod yn ysgrifenwr gwleidyddol a threfnwr a chadeirydd y BNP.
Gwleidyddiaeth [golygu]
Mae Nick Griffin yn un o'r rhai sy'n gwadu'r Holocost. Cyfeiriodd ato fel "Twyll yr Ugeinfed Ganrif" (the Hoax of the Twentieth Century). Dywedodd hefyd: "Dwi'n ymwybodol iawn o'r ffaith mai'r farn gyffredinol yw y cafodd 6 miliwn o Iddewon eu gasio a'u hamlosgi neu eu troi'n lampshades. Y gred gyffredinol ar un adeg oedd fod y Ddaear yn fflat ... Dwi wedi dod i'r casgliad bod chwedl y 'diffodiant' yn gymysgedd o bropaganda rhyfel y Cynghreiriaid, celwydd tra buddiol, a hysteria gwrach diweddar."[1]
Etholiadau a gystadlwyd [golygu]
| Dyddiad yr etholaeth | Etholaeth | Plaid | Pleidleisiau | % |
|---|---|---|---|---|
| 22 Hydref 1981 | Gogledd-orllewin Croydon | FFC | 429 | 1.2 |
| 9 Mehefin 1983 | Gogledd-orllewin Croydon | FFC | 336 | 0.9 |
| 23 Tachwedd 2000 | Gorllewin West Bromwich | PGP | 794 | 4.2 |
| 7 Mehefin 2001 | Gorllewin Oldham a Royton | PGP | 6,552 | 16.4 |
| 5 Mai 2005 | Keighley | PGP | 4,240 | 9.2 |
| 3 Mai 2007 | Gorllewin De Cymru | PGP | 8,993 | 5.5 |
| 6 Mehefin 2009 | Gogledd-orllewin Lloegr | PGP | 132,194 | 8.0 (etholedig) |
| 6 Mai 2010 | Barking | PGP | 6,620 | 14.6 |
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "I am well aware that the orthodox opinion is that 6 million Jews were gassed and cremated or turned into lampshades. Orthodox opinion also once held that the earth is flat … I have reached the conclusion that the 'extermination' tale is a mixture of Allied wartime propaganda, extremely profitable lie, and latter-day witch-hysteria." Dyfyniad o eiriau Nick Griffin ar wefan Searchlight Cymru[1].
Dolenni allanol [golygu]
Gwefan Swyddogol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan y BNP
Erthyglau am Griffin [golygu]
- (Saesneg) Proffil Griffin gan y BBC
- (Saesneg) BBC Adroddiad arbenig ar Griffin
- (Saesneg) Proffil o Griffin gan Searchlight
- (Saesneg) Newyddion am arestio Nick Griffin
| Senedd Ewrop | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Den Dover |
Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd-orllewin Lloegr 2009 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol pleidol | ||
| Rhagflaenydd: John Tyndall |
Arweinydd y British National Party Medi 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |