Nicholas Bennett

Oddi ar Wicipedia

Mae Nicholas Jerome Bennett (ganwyd 7 Mai 1949) yn gyn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Benfro ac roedd yn Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1990 a 1992.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bennett yn Hamersmith, Llundain ym 1949 yn fab i Peter Ramsden Bennett ac Antonia Mary Flanagan.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sedgehill a Choleg Polytechnig Gogledd Llundain lle raddiodd gyda BA mewn Athroniaeth, derbyniodd Tystysgrif Addysg i Raddedigion gan Brifysgol Llundain ac MA mewn Rheolaeth Addysgol o Brifysgol Sussex.

Ym 1995 priododd Ruth Whitelaw yn Barnham Broom,Swydd Norfolk

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Bu Bennett yn athro ysgol o 1976-1985 bu hefyd yn gweithio am gyfnod ym maes cyhoeddi addysgol.

Bu Bennett yn gwasanaethu fel aelod o Gyngor Cyllido Addysg Bellach Lloegr (HEFCE) o 1992 i 1997. Roedd yn gynghorydd ar faterion cyhoeddus i Price Waterhouse 1993-1998, cyn dod yn Brif Weithredwr Cymdeithas y Peirianwyr Ymgynghorol 1998-2002. Yn 2003 ffurfiodd ei gwmni ei hun, Kent Refurbishment Ltd, sy'n ymgymryd â datblygu eiddo ac yn cynnig ymgynghoriad ar addysg a materion cyhoeddus.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Cafodd Bennett ei ethol fel Cynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Bwrdeistref Lewisham, Llundain ym 1974 gan dal ei sedd hyd 1982; gwasanaethodd fel arweinydd wrthblaid y cyngor o 1979 i 1981. Roedd o hefyd yn aelod o Awdurdod Addysg Llundain Mewnol (ILEA) o1978 i 1981 gan wasanaethu ar ei bwyllgor datblygu a'i bwyllgor ysgolion.[2]

Safodd yn etholaeth Hackney Central yn Etholiad Cyffredinol 1979 heb lwyddiant. Safodd yn etholaeth Sir Benfro yn Etholiad Cyffredinol 1987 gan gael ei ethol fel Aelod Ceidwadol i olynu Nicholas Edwards, collodd y sedd i Nick Ainger, Llafur, yn Etholiad Cyffredinol 1992

Gwasanaethodd fel aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig o 1987 i 1990, roedd yn aelod o'r Bwyllgor Dethol ar Weithdrefn o 1988 i 1990, ac roedd yn Is-Gadeirydd (Cymru) o Bwyllgor Sefydliad Aelodau Ceidwadol y Meinciau Cefn ym 1990. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Drafnidiaeth, Roger Freeman, ym 1990, cyn cael ei benodi yn Is-Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1990 a 1992.

Safodd yn etholaeth Gorllewin Reading yn Etholiad Cyffredinol 1997 gan golli i'r Blaid Lafur.

Yn 2006 a 2010 cafodd Bennett ei ethol fel Cynghorydd dros ward Gorllewin Wickham ym Mwrdeistref Bromley, Llundain. Ym Mai 2012 etholwyd ef yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Datblygu a Pholisi Addysg y Cyngor.[3]

Mae Bennett yn Ynad Heddwch yn Battersea.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. BENNETT, Nicholas Jerome, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Nov 2014 [1] adalwyd 17 Ebrill 2015 gyda thocyn darllenydd LLGC
  2. Archives in London and the M25 area.[2] Archifwyd 2016-01-17 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Ebrill 2015
  3. Councillor Nicholas Bennett J.P. Gwefan Cyngor Bromley [3] Archifwyd 2016-03-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Ebrill 2015]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Nicholas Edwards
Aelod Seneddol Sir Benfro
19871992
Olynydd:
Nick Ainger