Newyn Corn Affrica, 2011

Oddi ar Wicipedia
Mamau a phlant yn disgwyl eu tro yn Dadaab, Cenia.

Newyn yng Nghorn Affrica o ganlyniad i sychder difrifol yw newyn Corn Affrica, 2011, sy'n effeithio holl ardal Dwyrain Affrica. Mae'r sychder wedi achosi argyfwng diffyg bwyd difrifol yn Somalia, Ethiopia, a Chenia a hyn yn bygwth bywydau mwy na 10 miliwn o bobl. Effeithia'r argyfwng bwyd hefyd ar wledydd eraill ger Corn Affrica, gan gynnwys Jibwti, Swdan, De Swdan a rhannau o Wganda.

Ar 20 Gorffennaf, cafwyd datganiad gan y Cenhedloedd Unedig eu bont, am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, yn cyhoeddi newyn mewn dwy ranbarth o dde Somalia.[1] Cyn y cyhoeddiad hwn, credir fod degau o filoedd o bobl eisoes wedi marw yn ne Somalia'n unig.

Erbyn cychwyn mis Awst, bu farw bron 30,000 o blant dan 5 oed.[2] Yn ôl yr asiantaeth cymorth Mercy Corps ni ddisgwylir yr ardal i adfer yn llawn nes 2012.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) UN declares first famine in Africa for three decades as US withholds aid. The Daily Telegraph (20 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2011.
  2. (Saesneg) U.S. estimates nearly 30,000 children have died in famine. Maclean's (5 Awst 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.
  3. (Saesneg) TINA SAFI'S HORN OF AFRICA HUNGER CRISIS FUNDRAISING PAGE. Mercy Corps (15 Awst 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.