Newgrange

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Newgrange, Swydd Meath, Iwerddon

Mae Newgrange (Gwyddeleg: Dún Fhearghusa) yn fedd cyntedd sy'n rhan o gasgliad o feddau o'r enw Brú na Bóinne yn Swydd Meath yn Iwerddon. Newgrange yw'r enwocaf o holl henebion Iwerddon.

Adeiladwyd y bedd tua 3300-2900 CC. . Cloddiwyd y safle rhwng 1962 a 1975 gan yr Athro Michael J O'Kelly, o Goleg Prifysgol Cork. Mae yn domen enfawr o gerrig a thywyrch, gyda chylch o 97 o gerrig mawr o'i gwmpas a mur uchel yn ei gadw yn ei le. Tu mewn i'r domen mae cyntedd hir yn arwain at siamr ar ffurf croes, tua 20 trodfedd o uchder yn ei man ychaf. Cafwyd hyd i weddillion llosg pump o unigolion yn ystod y cloddio.

Pob blwyddyn ar y diwrnod byrraf, mae'r haul yn tywynnu yn syth ar hyd y cyntedd ac i mewn i'r siambr. Mae hyn yn nodweddu amryw o feddau o'r math yma, megis Maes Howe a Bryn Celli Ddu, heblaw mai ar y diwrnod hwyaf o'r flwyddyn y mae'r haul yn tywynnu i mewn i'r siambr ym Mryn Celli Ddu.

Y garreg ger y fynedfa

Gerllaw'r fynedfa mae carreg fawr gyda phatrymau o linellau sy'n debyg i batrwm triskelion Ynys Manaw, ac a geir hefyd mewn nifer o feddau ar Ynys Môn, er enhraifft Barclodiad y Gawres, sy'n debyg i Newgrange o ran cynllun. Mae nifer o feddau tebyg gerllaw Newgrange. Yr enwocaf o'r rhain yw Knowth a Dowth.