Neuadd Dinas Belffast

Oddi ar Wicipedia
Neuadd Dinas Belffast
Mathneuadd y dref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1906 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBelffast, Gogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.5965°N 5.93°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethGrade A listed building Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Neuadd Dinas Belffast (Saesneg: Belfast City Hall) yw adeilad dinesig Cyngor Dinas Belffast. Wedi'i lleoli yn Sgwâr Donegall, mae'n wynebu'r gogledd ac yn gwahanu ardaloedd masnach a busnes canol dinas Belffast, prifddinas Gogledd Iwerddon. O'i chwmpas ceir gerddi cyhoeddus, gardd goffa a'r Senotaff. Mae'r gerddi hyn yn ynys o lesni yng nghanol y ddinas sy'n boblogaidd gan weithwyr swyddfa ac ymwelwyr.

Dechreuwyd cynllunio'r adeilad yn 1898 ac fe'i cwblheuwyd yn 1906 ar gost o tua £360,000. Y pensaer oedd Alfred Brumwell Thomas.

Yn Rhagfyr 2006 gosodwyd cerflun o'r pêl-droediwr George Best, a oedd yn frodor o Belffast, yn y gerddi.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]