Nepaleg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Nepali)

Nepaleg (neu Nepali, Khaskura neu Gorkhali) yw iaith swyddogol Nepal. Mae'n iaith Indo-Ewropeaidd sy'n cynrychioli cangen ddwyreiniol Pahari (ieithoedd Indo-Ewropeaidd yr Himalaya), sydd yn ei thro yn perthyn i is-gangen yr ieithoedd Indo-Ariaidd (cangen o'r ieithoedd Indo-Iraneg) yn y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Enwau amgen ar Nepaleg yw 'Gorkhali' neu 'Gurkhali', "iaith y Gurkhas", a 'Parbatiya', "iaith y mynyddoedd" (parbat 'mynydd'). Ond 'Khaskura' yw'r enw hynaf, yn llythrennol "iaith y Khas," ymsefydlwyr Indo-Ariaidd yn ardal basn Karnali-Bheri yng ngorllewin eithaf Nepal ers cyfnod cynnar. Erbyn heddiw ceir tua 40 miliwn o siaradwyr Nepaleg.

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth yr iaith i brif ardaloedd Nepal o'r gorllewin tua'r 12g. Erbyn y 14g roedd grwpiau o ymsefydlwyr yn ei siarad yn Nyffryn Kathmandu. Erbyn yr 17g roedd yr iaith yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â'r iaith frodorol Newari gan y llywodraeth. Daeth yn iaith swyddogol y wlad, a chael ei galw'n 'Nepaleg' am y tro cyntaf, yn sgîl goresgyniad brenhiniaeth Newari Dyffryn Kathmandu gan y Gurkhas yn 1769 a chreu teyrnas Nepal.

Mae'r iaith wedi ymledu tu hwnt i ffiniau Nepal, yn bennaf yn nhaleithiau Indiaidd Assam a Sikkim ac yn arbennig yn rhanbarth Darjeeling, Gorllewin Bengal, lle mae'r mwyafrif yn ei siarad fel iaith gyntaf.

Mae llenyddiaeth Nepaleg yn llenyddiaeth fywiog sydd wedi gweld tyfiant mawr yn yr 20g wrth i lythrenedd ymledu. Ceir yn ogystal nifer o orsafoedd radio a rhai sianeli teledu yn y Nepaleg, yn Nepal ac India.

Ymadroddion[golygu | golygu cod]

Mae enghreifftiau o ymadroddion Nepaleg yn cynnwys:

  • Namaste. नमस्ते — y "croeso" traddodiadol yn y diwylliant Hindŵ, sy'n gallu golygu "hwyl" yn ogystal â "helo."
  • Tapāī̃ko/timro nām ke ho? तपाईंको/तिम्रो नाम के हो? - Be' di dy enw?
  • Mero nām Siôn ho.मेरो नाम आलोक हो — Fy enw i yw Siôn.
  • Tapāī̃lāī/timilāī kasto cha? तपाईंलाई/तिमीलाई कस्तो छ? — Sut 'da chi? (llai ffurfiol: Ke cha? के छ? mwy ffurfiol: Sañcai hunuhuncha? सञ्चै हुनुहुन्छ?)
  • Kāthmāndaũ jāne bāṭo dherai lāmo cha. काठ्माडौँ जाने बाटो धेरै लामो छ — Mae'n ffordd hir i Kathmandu!
  • Nepālmā baneko नेपालमा बनेको — Gwnaed yn Nepal.
  • Ma nepālī hũ म नेपाली हूँ — Dwi'n Nepali.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Cyrsiau a gramadeg[golygu | golygu cod]

  • Hutt, M. & Subedi, A., Teach Yourself Nepali (Llundain, 2003)

Geiriaduron[golygu | golygu cod]