Neo-Natsïaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Neo-Natsïaidd)
Baner yr Almaen Natsïaidd, sydd yn cael ei defnyddio gan rai mudiadau Neo-Natsïaid.

Term yw Neo-Natsïaeth sy'n cyfeirio at fudiadau, pleidiau ac ideolegau asgell dde eithafol wedi'r Ail Ryfel Byd sy'n ceisio adfer Natsïaeth neu ryw amrywiad arni sy'n adleisio rhai o elfennau crai Natsïaeth fel y gred mewn goruchafiaeth hil neu genedl a/neu drefnu cymdeithas ar linellau "integraliaeth Völkisch."

Anaml mae'r bobl a mudiadau hyn yn defnyddio'r term 'Neo-Natsïaidd' i'w disgrifio eu hunain gan ffafrio yn ei le labeli fel Sosialaidd Cenedlaethol (National Socialist) neu 'Cenedlaetholgar'. Mae rhai pobl sy'n bleidiol i'r ideoleg yn osgoi termau sy'n cael eu cysylltu â Natsïaeth yn hanesyddol: mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, fel Yr Almaen er enghraifft, ceir deddfwriaeth sy'n gwahardd datgan barn o blaid Natsïaeth a daliadau hiliol a gwrth-Semitaidd.

Yn aml mae Neo-Natsïaid yn defnyddio symbolau Indo-Ariaidd a ddefnyddid yn yr Almaen Natsïaidd, fel y Swastika, Rwnau Sig a phatrymau o'r lliwiau coch, gwyn a du. Ymddengys fod gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn ffenomen fyd-eang, gyda mudiadau a phleidiau mewn sawl gwlad a rhwydweithiau rhyngwladol hefyd. Mae unigolion a gysylltir â gweithgareddau Neo-Natsïaidd yn cynnwys Colin Jordan, George Lincoln Rockwell, John Tyndall, Eddy Morrison, a Nick Griffin.

Mudiadau Neo-Natsïaidd[golygu | golygu cod]

Affrica[golygu | golygu cod]

Asia[golygu | golygu cod]

Ewrop[golygu | golygu cod]

Norwy[golygu | golygu cod]

Sweden[golygu | golygu cod]

Rwsia[golygu | golygu cod]

Y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod]

Gogledd America[golygu | golygu cod]

Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Oceania[golygu | golygu cod]

De America[golygu | golygu cod]

Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Partido Nuevo Triunfo - Orden Nacional". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-12-01. Cyrchwyd 2009-05-03.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]