Neidr y Gwair

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Neidr y Gwair
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Squamata
Is-urdd: Serpentes
Teulu: Colubridae
Genws: Natrix
Rhywogaeth: N. natrix
Enw deuenwol
Natrix natrix
Linnaeus, 1758

Mae Neidr y Gwair (Natrix natrix) yn neidr anwenwynig Ewropeaidd.

Yn nodweddiadol mae Neidr y Gwair yn gwyrdd tywyll neu'n frown mewn liw efo coler melyn tu ôl i'r phen. Gall y lliw hefyd amrywio o llwyd i ddu. Mae'r ochr isaf yn oleuach mewn lliw. Ym Mhrydain Neidr y Gwair yw'r ymlusgiad fwyaf yn cyrraed lan at 120cm mewn hyd.

Maent yn ysglyfaethu'n bennaf ar amffibiaid, yn enwedig y froga cyffredin, er bod nhw weithiau'n fwyta mamolion a physgod. Mae Nadroedd y Gwair yn nofwyr cryf ac fel arfer yn cael eu ddarganfod yn agos i ddŵr croyw.

Darganfyddir y neidr mewn ardaloedd iseldir Lloegr a Chymru ond mae bron yn absennol o'r Alban ac ni ffeindir yn Iwerddon. Mae ganddo ddosbarthiad llydan yn Ewrop cyfandirol, o dde'r Llychlyn i dde'r Eidal. Darganfyddir hefyd yn ngogledd-gorllewin Affrica. Mae Nadroedd y Gwair Prydeinig yn perthyn i'r isrywogaeth Natrix natrix helvetica, ond mae arbenigwyr wedi'u gwahaniaethu ar y nifer o isrywogaethau.