Negros
Oddi ar Wicipedia
Un o ynysoedd y Pilipinas yw Negros. Saif i'r gogledd-orllewin o ynys fwy Mindanao, ac mae ganddi arwynebedd o 12,073 km². Roedd y boblogaeth yn 2000 tua 3,700,000. Y prif ddinasoedd ye Bacólod a Dumaguete.
Y copa uchaf ar yr ynys yw'r llosgfynydd Canlaón, 2,460 medr, ac mae afonydd yr ynys yn cynnwys Binalbagan, Ilog, Tolong a Tanjay. Ardal amaethyddol ysyw yn bennaf, ac mae'n cynhyrchu tua hanner siwgwr y Pilipinas, ynghyd a reis a ffrwythau megis bananas a mango.