Nazım Hikmet

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nazım Hikmet Ran

Bardd a dramodydd comiwnyddol o Dwrci oedd Nazım Hikmet Ran (IPA:nɑːˌzɯm hikˈmɛt) (20 Rhagfyr, 19013 Mehefin, 1963). Cyfieithwyd ei waith i sawl iaith.

Bywyd[golygu]

Fe'i ganwyd yn Selânik yn Ymerodraeth yr Otomaniaid (Thessaloniki, Gwlad Groeg erbyn hyn). Daeth yn aelod o'r blaid gomiwnyddol TKP, a chafodd ei alltudio a'i garcharu sawl gwaith achos o'i egwyddorion gwleidyddol.

Wedi gyfnod o fyw yn Moskva, fe ddychwelodd i Dwrci ym 1928 ar ol ymweld â chynhadledd yn Wien, a chafodd ei garcharu am dri mis. Fe'i carcharwyd eto ym 1933, a chafodd ei ryddhau mewn amnest yn 1934. Ym 1938, fe'i cafwyd yn euog o annog gwrthryfel ymysg myfyrwyr y byddin (am iddynt ddarllen ei farddoniaeth), ac fe'i dedfrydiwd i wyth mlynedd ar hugain a phedwar mis o garchariad gyda llafur caled. Cafodd ei ryddhau o'r diwedd ym 1950 (eto fel rhan o amnest gyffredinol), wedi iddo fynd ar streic ympryd ac i lawer ymgyrchu drosdo. Roedd yn sal erbyn hynny, gyda phroblemau gyda'i iau a'i galon. Derbyniodd yr Wobr Heddwch Rhyngwladol a ddyfarnwyd gan Gyngor Heddwch y Byd ym 1950, ynghyd â Pablo Picasso, Paul Robeson, Wanda Jakubowska a Pablo Neruda. Bu'n rhaid iddo adael Twrci ym 1951, ac ni ddychwelodd wedi hynny. Treuliodd rhan fwyaf o gyfnod olaf ei fywyd yn Yr Undeb Sofietaidd, er iddo ymweld â China a Paris. Bu farw ym Moskva ym 1963.

Bu iddo briodi tair gwaith, yn gyntaf i Pirayé İçin, yna i Münevver Andaç (cawsant fab, Mehmet), ac yna i Vera Tulyakova.

Ei farddoniaeth[golygu]

Er i'w gerddi cynnar defnyddio mesurau sillafog, roedd cysyniadau ei farddoniaeth yn anghonfensiynol o'r dechrau. Weithiau ysgrifennodd mewn gwers rhydd, weithiau fe gymerodd ffurf traddodiadol fel y rubaiyat a'i addasu i'w anghenion. Manteisiau'n gyson ar sain gyfoethog y Tyrceg. Fe'i dylanwadwyd gan Mayakovski a'r beirdd Sofietaidd hynny a hyrwyddodd dyfodoliaeth. Gosododd Zülfü Livaneli llawer o'i gerddi i gerddoriaeth.

Dolenni allanol[golygu]