National Geographic (cylchgrawn)
Oddi ar Wicipedia
Cyfnodolyn swyddogol Cymdeithas National Geographic yw National Geographic, ynghynt National Geographic Magazine. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym 1888, ac fe'i gyhoeddir yn fisol. Mae'n canolbwyntio ar ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth boblogaidd, hanes, diwylliant, materion cyfoes, a ffotograffiaeth. Un o'i nodweddion amlycaf yw'r ffrâm felen sy'n amgylchynu ei glawr.
Ceir fersiwn ar-lein ohono hefyd.
Mewn Datganiad i'r Wasg cyhoeddwyd i'r cylchgrawn, yn niwedd 2011, gael cylchrediad global o 8.2 miliwn a hynny mewn 34 iaith.[1] Yn yr Unol Daleithiau mae'r cylchrediad oddeutu 5 miliwn pob mis.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "National Geographic Boilerplates". National Geographic. http://press.nationalgeographic.com/pressroom/index.jsp?pageID=factSheets_detail&siteID=1&cid=1317310520096. Adalwyd 18 Mai 2012.
- ↑ "National Geographic Magazines". nationalgeographic.com. http://press.nationalgeographic.com/pressroom/index.jsp?pageID=factSheets_detail&siteID=1&cid=1058466231550. Adalwyd 14 Tachwedd 2011. "National Geographic magazine's total monthly circulation is around 8.5 million copies. International circulation is more than 3 million monthly, of which more than 2.1 million copies are in languages other than English."
