Nancwnlle

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Nantcwnlle)
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned a phlwyf yn Nyffryn Aeron yng nghanolbarth Ceredigion yw Nancwnlle, weithiau Nantcwnlle. Saif tua hanner ffordd rhwng Aberaeron a Thregaron.

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bwlch-llan, Abermeurig, Gartheli, Llundain-fach, Llwyn-y-groes, Tal-sarn a Threfilan. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 819. Mae Plwyfi Nantcwnlle a Llanfihangel Ystrad yn cyfuno i greu ward etholiadol Llanfihangel Ystrad ar Gyngor Sir Ceredigion.