Nancy Wake
Oddi ar Wicipedia
Asiant cudd oedd yn gweithio dros y Deyrnas Unedig yn yr SOE yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Nancy Grace Augusta Wake, AC, GM (30 Awst 1912 – 7 Awst 2011), a elwir yn "Y Llygoden Wen". Ganwyd yn Seland Newydd a magwyd yn Awstralia. Daeth yn aelod blaenllaw o'r résistance yn Ffrainc dan feddiannaeth yr Almaen.