Nambour
Oddi ar Wicipedia
Tref yn nhalaith Queensland, Awstralia, yw Nambour. Fe'i lleolir 101 km i'r gogledd o ddinas Brisbane, prifddinas y dalaith. Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain Queensland ar yr Arfordir Sunshine, wrth droed Cadwyn Blackall. Mae gan Nambour boblogaeth o 13,800 (cyfrifiad 2006). Mae'n ganolfan weinyddol Cyngor Rhanbarthol Sunshine Coast.
Mae pobl enwog o Nambour yn cynnwys Kevin Rudd, Prif Weinidog Awstralia, a'r cyflwynydd teledu ifanc Bindi Irwin, merch y diweddar Steve Irwin.