Naas
Oddi ar Wicipedia
Eglwys Dewi Sant, Naas.
- Gweler hefyd Naas (gwahaniaethu).
Tref yn Iwerddon yw Naas (Gwyddeleg: Nás na Ríogh, ynganer [nɑːs nə riː], neu An Nás [ən nɑːs]), sy'n dref sirol Swydd Kildare yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Gyda phoblogaeth o dros 20,000 dyma'r dref fwyaf yn y sir.
Lleolir Naas ger Dulyn ac mae nifer o'r trigolion yn teithio i'r brifddinas i weithio. Mae'r ffordd ddeuol N7 a'r draffordd M7 yn cysylltu Naas a Dulyn a lleoedd i'r de a'r de-ddwyrain.