Mynyddoedd Rhodope
Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd ar y ffîn rhwng Bwlgaria a Gwlad Groeg yn ne-ddwyrain Ewrop yw Mynyddoedd Rhodope (Bwlgareg: Родопи, Rodopi, Groeg: Ροδόπη, Rodopi). Saif tua 83% o'r mynyddoedd yn ne Bwlgaria, a'r gweddill yng Ngroeg. Y copa uchaf yw Golyam Perelik (2,191 medr).
Mae'r mynyddoedd hyn yn bwysig ar gyfer cynhyrchu trydan dŵr, a cheir nifer o gen safleoedd Thracaidd megis Perperikon a Tatul. Yn ôl traddodiad, yma y ganed Orpheus.