Mynydd rhew

Oddi ar Wicipedia
Mynydd rhew ger arfordir yr Ynys Las.

Talp mawr o rew dŵr croyw sydd wedi torri'n rhydd o rewlif ac yn arnofio'n rhydd mewn dŵr agored yw mynydd rhew, a elwir hefyd yn fynydd iâ. Am fod dwysedd rhew pur oddeutu 920 kg/m³, o gymharu â 1025 kg/m³ am ddŵr hallt y môr, nid oes fel arfer ond degfed o gyfaint y mynydd rhew uwchben wyneb y dŵr.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.