Mynydd Stanley
Oddi ar Wicipedia
| Mynydd Stanley Mynyddoedd Rwenzori |
|
|---|---|
| Llun | Copa Margherita, copa uchaf Mynydd Stanley |
| Uchder | 5,109 |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo / Wganda |
Mynydd ym Mynyddoedd Rwenzori yng nghanolbarth Affrica, ar y ffîn rhwng Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ac Wganda yw Mynydd Stanley. Mae'n cynnwys nifer o gopaon; mae'r uchaf o'r rhain, Copa Margherita, yn cyrraedd 5,109 m uwch lefel y môr.
Mynydd Stanley yw'r copa uchaf yn Wganda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a'r trydydd uchaf yn Affrica ar ôl Mynydd Kilimanjaro a Mynydd Cenia. Mae'n un o'r ychydig gopaon yn Affrica lle ceir eira parhaol.
Enwyd y mynydd ar ôl Henry Morton Stanley. Yn ystod ei daith fforio ef yn 1889 y gwelwyd y mynyddoedd hyn gan Ewropeaid am y tro cyntaf.