Mynydd Merthyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynydd Merthyr

Mynydd Merthyr yw'r enw a roir i'r grib lydan o dir uchel rhwng Cwm Taf a Chwm Cynon yn ardal Y Cymoedd, De Cymru. Seilir y ffin rhwng awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar y mynydd hwn; saif Merthyr i'r dwyrain ohono, a Rhondda Cynon Taf i'r gorllewin.

Pwynt uchaf y mynydd yw Mynydd Gethin (Cyfeirnod grid OS: SO 044025) sydd ag uchder o 493m.