Mynydd Kenya
Oddi ar Wicipedia
| Mynydd Kenya ' |
|
|---|---|
| Llun | Mynydd Kenya |
| Uchder | 5,199 m |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Kenya |
Mynydd Kenya, weithiau Mynydd Cenia, yw mynydd uchaf Kenya, a'r ail-uchaf yn Affrica (ar ôl Mynydd Kilimanjaro). Mae gan y mynydd nifer o gopaon; yr uchaf yw Batian (5,199 m), Nelion (5,188 m) a Lenana (4,985 m). Saif y mynydd yn ucheldiroedd canolbarth Kenya, ychydig i'r de o'r gyhydedd a tua 150 km i'r gogledd-ddwyrain o Nairobi.
Crewyd Parc Cenedlaethol Mynydd Kenya i warchod yr ardal o amgylch y mynydd, ac mae'r parc wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.