Mynydd Ida, Twrci

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mynydd yng ngogledd-orllewin Anatolia yn Nhwrci yw Mynydd Ida, Twrceg Kazdağı. Saif yn nhalaith Balıkesir gerllaw Gwlff Edremit, ac i'r de-ddwyrain a adfeilion Caerdroea. Mae'n 1774 m (5,820 troedfedd) o uchder.

Roedd gan y mynydd le amlwg ym mytholeg Groeg. Enwyd y mynydd ar ôl y nymph Idaea, gwraig y duw afon Scamander, a mam Teucer, brenin Caerdroea. Tardda afon Scamander ar lethrau Mynydd Ida. Addolid Cybele ar y mynydd, a galwai'r Rhufeiniaid hi yn Idaea Mater. Dywedir i'r casgliad cynharaf o Lyfrau'r Sibyl gael ei ysgrifennu yn Gergis ar fynydd Ida, yng nghyfnod Cyrus Fawr. Ymddengys mai'r casgliad hwn a drosglwyddwyd i Cumae ac yna i Rufain.

Dywedir i'r bachgen Ganymede, mab un o frenhinoedd Caerdroea, gael ei gipio o Fynydd Ida gan Zeus, i'w wasanaethu yn Olympos. Bu Paris, mab Priam, brenin Caerdroea, yn byw fel bugail ar Fynydd Ida, ac yma y bu'n feirniad yn y gystadleuaeth harddwch rhwng y duwiesau Athena, Hera ac Aphrodite a arweiniodd ar Ryfel Caerdroea. O gopa Mynydd Ida y gwyliau'r duwiau a'r duwiesau yr ymladd.