Mynydd Deulyn

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Deulyn
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru, Conwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr400 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.133465°N 3.856408°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7594061270 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd105 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCreigiau Gleision Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Carneddau Edit this on Wikidata
Map

Mae Mynydd Deulyn yn gopa mynydd a geir yn rhagfryniau'r Carneddau yn Eryri, yng nghymuned Trefriw, Sir Conwy; cyfeiriad grid SH759612. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 295 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Saif rhwng Llyn Crafnant i'r gorllewin a Llyn Geirionydd i'r dwyrain; safle sy'n rhoi iddo ei enw. Gorchuddir y bryn hwn yn gyfangwbl bron gyda choed sy'n rhan o Goedwig Gwydyr. Y pentref agosaf yw Llanrhychwyn, uwchben Dyffryn Conwy.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 400 metr (1312 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]