Mynydd Coety

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Coety
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertyleri, Blaenafon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr578 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7645°N 3.1137°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO2316107996 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd231 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Bryn yn ne Cymru yw Mynydd Coety (Saesneg: Coity Mountain). Saif rhwng Blaenafon ac Abertyleri, ac mae'r ffîn rhwng awdurdodau unedol Torfaen a Blaenau Gwent yn mynd dros y copa. Mynydd Coety yw'r copa uchaf yn y ddwy sir.

Mae'r rhan fwyaf o'r bryn yn rhan o ardal Tirlun Diwydiannol Blaenafon, sydd yn Safle Treftadaeth y Byd. Ar y copa mae cofeb i gi o'r enw Carlo, a saethwyd yn ddamweiniol gan ei feistr pan allan yn hela yn 1864.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 578 metr (1896 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]