Mynydd Carnguwch
| Mynydd Carnguwch (Penrhyn Llŷn) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Y garnedd ar gopa Mynydd Carnguwch. |
| Uchder (m) | 359 |
| Uchder (tr) | 1178 |
| Amlygrwydd (m) | 104 |
| Lleoliad | Llŷn, Gwynedd |
| Map topograffig | Landranger 123; Explorer 253 254 |
| Cyfesurynnau OS | SH374429 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | HuMP |
Bryn yn Llŷn, Gwynedd yw Mynydd Carnguwch (359 m). Saif tua milltir a hanner i'r de o gopaon Yr Eifl, tua hanner ffordd rhwng Llithfaen a Llanaelhaearn; cyfeiriad grid SH374429. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 255metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Ceir carnedd anferth ar gopa'r bryn sy'n mesur tua 30 m ar draws ac sy'n 6 m o uchder. Mae'n bosibl bod y garnedd hon yn dyddio o Oes yr Efydd.
Gorwedd Mynydd Carnguwch ym mhlwyf Carnguwch, ac ymddengys fod y ddau le fel ei gilydd wedi eu henwi ar ôl y garnedd ar ben y bryn.
Cynnwys |
Y copa [golygu]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 359m (1178tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 8 Mehefin 2009.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'