Mynydd Bodran

Oddi ar Wicipedia
Mynydd Bodran
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr287 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.223179°N 3.588376°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH9404470751 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd54 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaMwdwl-eithin Edit this on Wikidata
Map

Bryn yn Sir Conwy yw Mynydd Bodran sy'n gorwedd tua milltir i'r dwyrain o bentref Llanfair Talhaearn yng ngogledd-ddwyrain y sir. Uchder: 286 metr.

Llifa Afon Elwy heibio i'r gogledd o'r bryn. Dros y cwm ceir Mynydd Bodrochwyn a Moelfre Isaf. Ceir hen gorwd wrth ei droed ar lan afon Elwy. I'r de ceir bryn isel Moel Iago. I'r dwyrain llifa Afon Aled heibio i droed y bryn i'w haber yn afon Elwy.

Mae Mynydd Bodfran yn adnabyddus i'r rhai sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg y 19eg ganrif am fod y bardd John Jones (Talhaiarn), a aned yn Llanfair Talhaearn, wedi cyfansoddi dilyniant o ugain o gerddi wrth yr enw Tal ar ben Bodran. Creodd y cerddi hyn gryn dipyn o stwr yn eu cyfnod oherwydd chwerwder awen y bardd a'r syniadau anuniongred a herfeiddiol a fynegodd, ond ceir hefyd gerddi o frogarwch sy'n ymhyfrydu yn natur yr ardal.[1]

Yn ôl Talhaiarn, 'Llofft y Corryn' oedd yr enw lleol am gopa Mynydd Bodran.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. T. Gwynn Jones (gol.), Talhaiarn[:] detholiad o gerddi (Gwasg Aberystwyth, 1930), tt.12-13.
  2. Talhaiarn[:] detholiad o gerddi, tud. 61.