Y Mynydd Bach

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mynydd Bach)
Y Mynydd Bach
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.28333°N 4.08333°W Edit this on Wikidata
Map
Saif y mynydd hwn yng nghanolbarth Ceredigion; am fynyddoedd eraill o'r un enw gweler yma.

Lleolir Y Mynydd Bach yng nghanolbarth Ceredigion. Rhes hir o fryniau isel ydyw mewn gwirionedd, yn hytrach na mynydd fel y cyfryw. Mae ei gopa uchaf yn 329 m uwch lefel y môr. Mae gan ardal y Mynydd Bach le pwsig yn hanes diwylliant a chrefydd Ceredigion.

Ardal y Mynydd[golygu | golygu cod]

Gorwedd y Mynydd Bach rhwng Cors Goch Glan Teifi i'r dwyrain ac arfordir Bae Ceredigion i'r gorllewin. Wrth lethrau gorllewinol y Mynydd ceir Llyn Eiddwen, llyn naturiol sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Croesir y Mynydd gan lôn wledig gul sy'n cysylltu Trefenter a Blaenpennal. Gorwedd y pentref cyntaf bron yng nghanol ardal y Mynydd, ger Llyn Eiddwen.

Pentrefi yn ardal y Mynydd Bach:

Hanes a diwylliant[golygu | golygu cod]

Y gofeb i'r pedwar bardd ar y Mynydd Bach.

"Dros y Mynydd Bach" y byddai pererinion Anghydffurfiol o mor bell i'r gogledd ag Arfon a Llŷn yn dod yn ail hanner y 18g i wrando pregethu Daniel Rowland yn Llangeitho. Roedd ffynnon ar lethrau'r Mynydd tua dwy filltir o Langeitho lle byddent yn ymgynnull i gael lluniaeth, diod a gorffwys ar ôl teithio trwy'r nos dros y Mynydd. Byddent yn dod o Sir Gaernarfon bob ail fis gan hurio cychod pysgota o Aberdaron, Abersoch, Pwllheli neu Borthmadog, i Aberystwyth, gan gychwyn i'w taith dydd Gwener. Ar y Sadwrn cerddent o Aber i Langeitho dros y Mynydd Bach a dychwelyd yr un ffordd nos Sul.[1]

Cynhelir 'Cwrdd Gweddi'r Mynydd' ar lethrau'r Mynydd Bach ger Llyn Eiddwen ym mis Mehefin, arfer a gychwynodd adeg Diwygiad 1904-1905. Mae'n dal i fod yn boblogaidd.

Cysylltir y Mynydd gyda phedwar o feirdd lleol, sef T. Hughes Jones (1895-1966), B. T. Hopkins (1897-1981), J. M. Edwards (1903-1978) ac Edward Prosser Rhys (1901-1945). Codwyd cofeb iddynt ill pedwar ar un o gopaon y Mynydd ger Llyn Eiddew.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Henry Hughes, Trefecca, Llangeitho a'r Bala (Caernarfon, 1896), tt. 28-29.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]