Mynediad i Eiriolaeth
Mae Mynediad i Eiriolaeth yn wasanaeth eirioli annibynol sydd wedi'i leoli yn y Rhyl, Sir Ddinbych. Mae'n nhw'n cynorthwyo pobl dros 50 oed sy'n byw o fewn y sir; byddant yn y dyfodol agos, hefyd, yn cynorthwyo pobl ifanc 11-25 oed.[1] Mae'r gwasanaeth yn ceisio sicrhau llais i'r bobl hyn ac yn eu cynorthwyo i sicrhau fod cwmniau a gwasanaethau eraill yn gwrando arnynt; ceisiant hefyd eu harfogi fel y gallent wneud penderfyniadau, magu hyder a datrus problemau tebyg yn y dyfodol.[2]
Gweithiant mewn partneriaeth gyda phobol sydd angen cymorth, gan eu cefnogi a chymeryd eu hochor. Mae'r math o broblemau mae nhw'n delio gyda o ddydd i ddydd yn amrywiol iawn:
- materion ariannol e.e. problemau dyled neu fusnes yn mynd i'r wal
- gofalaeth e.e. symud i fewn neu allan o gartref gofal neu dderbyn gofal gartref
- cynghori ynghylch nawdd e.e. nawdd cymdeithasol
- problemau yn y catref e.e. landlord yn bygwth eu taflyd allan o fflat
- darllen llythyrau a deall ffurflenni e.e. ymwneud â biliau trydan[3]
Mae nhw'n cynnal cyfarfodydd ymgynghorol yn y Rhyl, Dinbych a Chorwen, ble mae gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi'n ceisio deall y sefyllfa a chynghori'r person sydd angen cymorth. Mae'r staff hefyd yn ymweld â phobl yn eu cartrefi, neu adeilad arall, cyfleus. Mae'r gwasanaeth yn hollol ddibynnol ar ariannu allanol, sydd hyd at 2014 yn dod o nawdd gan y Loteri.[4]
Y cleient [golygu]
Mae'r cleint yn cynnwys grwpiau amrywiol gan gynnwys: pobl hŷn, pobol ifanc, pobl â nam ar y clyw neu'r golwg, pobl gyda salwch meddyliol, ffoaduriaid a phobl na fedrant wneud penderfyniadau eu hunain. Grwp arall yw gofalwyr am bobl gydag anfantais neu afiechyd.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Accessing the Service". Mynediad i Eiriolaeth. http://www.access2advocacy.co.uk/index.php/en/about-us/accessing-the-service. Adalwyd 09 Mai 2012.
- ↑ "An advocacy Service For Older People in Denbighshire". Cymdeithas Tai: Clwyd Alyn. http://www.clwydalyn.co.uk/article.asp?id=1279&cat=485. Adalwyd 09 Mai 2012.
- ↑ "Key facts and figures". Radio Wales. http://www.communityradiowales.com/Access-2-Advocacy-DVSC.html. Adalwyd 09 May 2012.
- ↑ Gwefan y Loteri; adalwyd 15/05/2012