Myles Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdur Cymreig ar bynciau crefyddol oedd Myles Davies (1662 – tua 1719).[1] Ysgrifennai yn Lladin a Saesneg o safbwynt Protestanwr yn erbyn daliadau a dylanwad Pabyddiaeth.[2]

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Myles Davies ym mhlwyf Chwitffordd, Sir y Fflint, yn 1662. Cafodd ei hyfforddi i fod yn offeiriaid Catholig yng Ngholeg Seisnig yr Iesiwitiaid yn Rhufain ond droes yn Brotestant ar ôl dychwelyd i Gymru. Disgrifia ei droedigaeth yn ei lyfr The Recantation of Mr Pollett, a Roman Priest (1705). Ei brif waith yw'r Athenae Britannicae (1716), ar y ddadl rhwng Protestaniaeth a Phabyddiaeth, sy'n cynnwys ei ddrama Ladin Pallas Anglicana.[3]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

  • The Recantation of Mr Pollett, a Roman Priest (1705)
  • Athenae Britannicae (6 chyfrol, 1716)
  • Pallas Anglicana. Drama Ladin.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. R. Julian Roberts, ‘Davies, Myles (b. 1662, d. in or after 1719)’, Oxford Dictionary of National Biography, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004 adalwyd 21 Hydref 2013
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  3. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).