Myfanwy
Oddi ar Wicipedia
Un o ganeuon y cyfansoddwr Cymreig Joseph Parry (1841 - 1903) yw Myfanwy, gyda'r geiriau'n dod o gerdd wedi'u cyfansoddi gan Richard Davies (Mynyddog) yn 1858 dan y teitl Myfanwy Fychan (cyhoeddwyd 1860 yn y gyfrol Oriau'r Hwyr). Dyma un o ganeuon enwocaf y bartneriaeth hon - rhain hefyd fu'n gyfrifol am yr opera Blodwen.
Geiriau [golygu]
- Paham mae dicter, O Myfanwy,
- Yn llenwi'th lygaid duon di?
- A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
- Heb wrido wrth fy ngweled i?
- Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
- Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
- Pa le mae sain dy eiriau melys,
- Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?
- Pa beth a wneuthum, O Myfanwy,
- I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
- Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
- Â thanau euraidd serch dy fardd?
- Wyt eiddo im drwy gywir amod
- Ai gormod cadw'th air i mi?
- Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
- Heb gael dy galon gyda hi.
- Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
- Dan heulwen disglair canol dydd.
- A boed i rosyn gwridog iechyd
- I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
- Anghofia'r oll o'th addewidion
- A wnest i rywun, 'ngeneth ddel,
- A dyro'th law, Myfanwy dirion
- I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".
Gweler hefyd [golygu]
- Myfanwy Fychan, sef y "Myfanwy" o'r Oesoedd Canol y bu ei hanes rhamantus yn ysbrydolaeth i Geiriog gyfansoddi ei gerdd o'r un enw.