Mwyngloddfa Darren

Oddi ar Wicipedia
Mwyngloddfa Darren
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.15 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.431848°N 3.943455°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Mwyngloddfa Darren wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 10 Mawrth 2009 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 0.15 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle oherwydd agweddau daearegol arbennig o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae'r wythien mwyn yn cynnwys canran uchel o'r mwyn tetrahedrit, sy'n cynnwys arian. Mae'r amrywiaeth yn y canran o fwynau ar draws maes mwyn Canolbarth Cymru yn dystiolaeth o'r broses daearegol o greu'r gwythiennau mwyn. Credir bod hylif poeth yn cylchredeg yn ddwfn o fewn crwstyn y ddaear a bod metalau yn cael eu golchi o'r creigiau o amgylch yr hylif. Byddai canran y gwahanol fetalau yn gwahaniaethu, yn dibynnu ar natur y graig honno.[2]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2.  Tirlun a Bywyd Gwyllt - Mwyngloddfa Darren. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]